Mae’r Fenter yn Elusen Gristnogol. Eglwysi ac unigolion sy’n cefnogi’r Fenter yn ariannol, ac mae ysgolion yn rhoi cyfraniad bach tuag at gostau’r gwaith o dro i dro. I ddal i dyfu, mae’r gwaith angen eich gefnogaeth.
Gallwch roi cyfraniad unwaith trwy anfon siec neu daleb elusen atom. Fel arall, gallwch roi rhodd reolaidd trwy ddefnyddio’r ffurflen ‘Datganiad Archeb Banc’. Os ydych yn drethdalwr yn y DU, gallwch ddefnyddio’r un ffurflen, a gallwn hawlio 28c yn ôl mewn treth am bob punt a roddwch. Mae’r cyfeiriad i anfon y ffurflen hon, ynghyd â’ch rhoddion, wedi’i argraffu ar waelod y ffurflen.